Mae amaethyddiaeth wedi bod, ac yn dal i fod, y brif alwedigaeth yn y gymuned.Yn yr amseroedd a fu, yr oedd dwy alwedigaeth arall wedi chwarae rhan bwysig iawn yn y gymuned,sef cynhyrchu gwlanen a chloddio am fwyn plwm. Mae’r enw Pandy, sydd i’w gael mewn llawer man yn y gymuned, yn gysylltiedig a’r felin bannu a’r ffatri wlanen.
Mae olion o’r gwaith mwyn plwm i’w gweld yn glir ar fferm Tÿ Isaf a phentrefan Dylife.Ar un amser, ‘roedd pyllau cloddio mwyn plwm Dylife yn cyflogi cannoedd, ond yn awr dim ond tua 20 o bobl sydd yn byw yn y pentref.
Yr oedd nifer o ffactorau yn gyfrifol am y cynnydd sylweddol yn yr ymfudo o’r ardal i’r Byd Newydd.Cofrestrir bod cymaint a 99 wedi gadael Llanbrynmair am yr Amerig ar un diwrnod yn unig.Yn 1857 arweiniwyd grwp gan y Parchedig Samuel Roberts Y Diosg i fywyd newydd yn Tennessee ond methiant fu’r fenter gan iddi ddod dan ddylanwad Rhyfel Cartref America..
Fel y dangosir gan y rhestr o wasanaethau a diwydiant ysgafn, mae Llanbrynmair yn gymuned llawn menter ac yn cadw ei thraddodiadau a’r iaith Gymraeg.
|
|