Cyngor Bro Llanbrynmair Community Council

Out & About
O Gwmpas

 

Llyn Clywedog

Codwyd argae ar yr afon Clywedog rhwng 1965-67 i groni Llyn Clywedog. Pwrpas y llyn a'r datblygiad yw rheoli llif yr afon Hafren rhag iddi orlifo rhannau o' i glannau, gan gynnwys Y Drenewydd, yn ystod misoedd y gaeaf, ac i sicrhau digon o rediad dŵr yn yr haf. Defnyddir y dŵr mewn cartrefi a ffatrioedd yn y Canolbarth.

 

Machinations (Timberkits)

Yn hen neuadd y pentref ceir amgueddfa Machinations yn arddangos modelau mecanyddol ar gyfer pob oed. Cychwynnwyd y busnes gan Eric ac Alison Williamson. Ar y cychwyn yr oeddynt yn cynhyrchu pecynnau i wneud modelau mecanyddol o dan yr enw Timberkits. Wedi gweld arddangosfa yn Lerpwl a oedd yn chwilio am gartref, fe'i prynwyd ganddynt ac fe'i gwelir heddiw fel atyniad deniadol i ymwelwyr yn yr ardal.

Why not add your favourite tourist attraction here. please contact us for details

 

 

About Us | Cysylltwch â ni |Design by Powys Web Hosting part of the Computersurgeon group